Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 (Llun-Gwener 9am-6pm) neu ofyn am alwad yn ôl

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae cynllun Nyth yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i gynllun Nyth pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon

Mae cynllun Nyth yn ymrwymedig i sicrhau y caiff eich preifatrwydd ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth wrth ddefnyddio’r wefan hon a fyddai’n ei gwneud yn bosibl i bobl eich adnabod, yna gallwch fod yn hyderus mai dim ond yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn y caiff ei defnyddio.

Efallai y bydd cynllun Nyth yn newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd wrth ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech ddod i’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn fodlon ar unrhyw newidiadau. Mae’r polisi hwn yn weithredol o 1 Ebrill 2018.

Beth rydym yn ei gasglu

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol

Yr hyn a wnawn gyda’r wybodaeth hon

Mae angen y wybodaeth hon arnom er mwyn deall eich anghenion yn well a darparu gwasanaeth gwell i chi, yn benodol am y rhesymau canlynol:

Diogelwch

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli addas ar waith er mwyn diogelu’r wybodaeth rydym yn ei chasglu ar-lein.

Sut rydym yn defnyddio cwcis

Ffeil fach yw cwci sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei gosod ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith i chi gytuno, caiff y ffeil ei hychwanegu ac mae’r cwci yn helpu i ddadansoddi traffig ar y rhyngrwyd neu’n rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn ymweld â gwefan benodol. Mae cwcis yn galluogi cymwysiadau gwe i ymateb i chi fel unigolyn. Gall y cymhwysiad gwe deilwra ei weithrediadau i’ch anghenion chi, ac i beth rydych yn ei hoffi ac nad ydych yn ei hoffi drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Rydym yn defnyddio cwcis logio traffig i nodi pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi traffig tudalennau gwe a gwella ein gwefan er mwyn ei theilwra i anghenion cwsmeriaid. Rydym ond yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion dadansoddiadau ystadegol ac wedyn caiff y data eu dileu o’r system. Ar y cyfan, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwefan well i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy’n ddefnyddiol i chi a pha rai nad ydynt yn ddefnyddiol i chi. Nid yw cwci, mewn unrhyw ffordd, yn rhoi mynediad i ni i’ch cyfrifiadur nac unrhyw wybodaeth amdanoch, ar wahân i’r data rydych yn dewis ei rannu â ni. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond mae modd addasu gosodiadau eich porwr fel arfer i wrthod cwcis os byddai’n well gennych wneud hynny. Gallai hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

Dolenni i wefannau eraill

Efallai y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni i’ch galluogi i ymweld â gwefannau eraill o ddiddordeb yn hawdd. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu nac am breifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu tra’n ymweld â gwefannau o’r fath ac ni chaiff gwefannau o’r fath eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus a bwrw golwg dros y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Rheoli eich gwybodaeth bersonol

Mae’r wybodaeth a ddarperir gennych drwy ffurflen cais ffonio’n ôl y wefan yn cael ei chasglu gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar ran cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru. Caiff y data eu casglu ar sail y caniatâd a roddir gennych os ydych yn dewis defnyddio’r ffurflen cais ffonio’n ôl a chlicio’r botwm ‘cyflwyno’.

Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio ar gyfer y gwasanaeth ffonio’n ôl yn unig. Caiff eich data eu cadw’n ddiogel a’u dileu ymhen saith niwrnod o ffonio’n ôl.

Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na lesio eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni chawn eich caniatâd neu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith.

Gallwch ofyn am fanylion am wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Os hoffech gael copi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, ysgrifennwch at Cynllun Nyth, Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, 33 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HB. Os credwch fod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch atom neu e-bostiwch ni cyn gynted â phosibl, i’r cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn ddi-oed.