Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 (Llun-Gwener 9am-6pm) neu ofyn am alwad yn ôl

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i’r Gymraeg. Rydym yn cefnogi’r egwyddorion na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na Saesneg yng Nghymru, a dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os byddant yn dewis gwneud hynny.

Byddwn yn darparu’r canlynol i’n holl gwsmeriaid:

Marchnata a Deunydd Darllen

Bydd pob gweithgarwch marchnata a chyfathrebu ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Staff sy’n siarad Cymraeg

Mae gan Nyth nifer o aelodau o staff mewn swyddi gwahanol sy’n rhugl yn y Gymraeg. Mae’r gwasanaeth a ddarparwn yn Gymraeg a Saesneg o’r un safon uchel.

Cyfathrebu

Ymatebir yn Gymraeg i unrhyw ohebiaeth ysgrifenedig a dderbynnir yn Gymraeg o fewn terfynau amser cytûn.

Y Broses Gwyno ac Apelio

Rydym yn trin cwynion ac apeliadau a dderbyniwn yn Gymraeg yn unol â’n terfynau amser cytûn. Bydd safonau gwasanaeth yn sicrhau y caiff y Gymraeg ei thrin yn gyfartal.

Gwasanaeth Cyfieithu

Mae Nyth yn defnyddio cwmni sydd wedi’i gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg i ddarparu ein gwasanaeth cyfieithu.

Y staff a’r gweithle

Rydym yn rhannu canllawiau â phob aelod o staff ar sut y bydd Nyth yn bodloni ei rwymedigaeth o dan Safonau’r Gymraeg.

Caiff staff gyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, a byddwn yn cynnig cyrsiau datblygu i bob aelod o’r tîm.

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gynhwysiant. Mae’r ymrwymiad hwn yn cynnwys gweithio tuag at wasanaeth cwbl ddwyieithog.