Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 (Llun-Gwener 9am-6pm) neu ofyn am alwad yn ôl

Newidiadau i gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru

Bydd cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2024, gyda chynllun newydd yn ei ddisodli ddydd Llun 1 Ebrill 2024. Bydd gan y cynllun newydd fwy o ffocws ar dechnolegau carbon isel ar gyfer y cartref lle mae’n gwneud synnwyr i wneud hynny, i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn sero net erbyn 2050.

O dan y cynllun newydd, bydd pob cartref yn cael ei asesu’n unigol, a chynigir yr ateb gorau sy’n effeithlon o ran ynni. Gall hyn fod drwy inswleiddio, gwresogi carbon isel a thechnolegau adnewyddadwy.

Bydd Nyth yn parhau i roi cyngor i gwsmeriaid ar arbed ynni ac arian a bydd yn parhau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm tan ddiwedd mis Mawrth 2024. Bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu mynegi eu diddordeb yn y cynllun newydd drwy wasanaeth cynghori Nyth a thrafod cynlluniau eraill o ran effeithlonrwydd ynni a’r grantiau carbon isel sydd ar gael.

Er mwyn gwneud y gorau o’r broses o weithredu’r ceisiadau sydd ar y gweill erbyn diwedd mis Mawrth 2024, ni fyddwn yn cymryd ceisiadau newydd ac eithrio cwsmeriaid cymwys sy’n agored i niwed heb wres na dŵr poeth yn yr eiddo.

Os nad oes gennych wres na dŵr poeth, cysylltwch â ni a byddwn yn eich cynghori am yr help sydd ar gael i chi.

Fel partner sy’n gweithio’n agos mewn cymunedau ledled Cymru, byddwch yn dod ar draws pobl sydd angen help i wneud eu cartrefi’n fwy cynnes ac yn fwy fforddiadwy i’w gwresogi.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru er mwyn helpu i gyrraedd cartrefi y gallai ein cyngor a’n cymorth fod o fudd iddynt. 

Mae gennym Reolwyr Datblygu Partneriaethau a all ddarparu sesiynau hyfforddiant a chyflwyniadau er mwyn helpu eich tîm i ddeall y cymorth y gall Nyth ei ddarparu. 

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau defnyddiol i’w lawrlwytho a all eich helpu i hyrwyddo cynllun Nyth.

Gallwn hefyd ddarparu Pecyn Digwyddiad er mwyn helpu i roi cyhoeddusrwydd i Nyth yn eich lleoliad neu ddigwyddiad cyhoeddus, sy’n cynnwys taflenni, dalwyr taflenni a phosteri. 

Manylion cyswllt y Rheolwyr Datblygu Partneriaethau

De a Gorllewin Cymru – Peter Hughes

Email: peter.hughes@est.org.uk
Mobile: 07538 041 319

Gogledd Cymru a Powys – Dylan Mclellan

Email: dylan.mclellan@est.org.uk
Mobile: 07903 443 655

Gwneud cais ar ran rhywun 

Rydym yn deall bod llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu dros y ffôn drwy linell cyngor Nyth. 

Rydym am sicrhau y gall pawb gael help gan Nyth, yn enwedig y bobl hynny sy’n agored i niwed. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ac asiantaethau partner er mwyn helpu i gyrraedd pobl ag anghenion penodol a’u helpu i gael budd o’r gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref am ddim a gynigir gan Nyth. 

Os hoffech gael gwybod sut i helpu rhywun i wneud cais i Nyth, cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Partneriaethau Nyth lleol. 

Porth Partneriaid Nyth 

Mae Porth Partneriaid Nyth yn ei gwneud hi’n hawdd i chi gwblhau cais ar ran eich cleient (cleientiaid) ac olrhain cynnydd y cais hwnnw. 

Pan fyddwch yn cofrestru ar y porth, byddwch yn cael manylion mewngofnodi unigryw a hyfforddiant am ddim o ran sut i’w ddefnyddio. Cynigir cymorth parhaus ac mae ein Rheolwyr Datblygu Partneriaethau bob amser wrth law i ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Byddwch hefyd yn cael adroddiad chwarterol ar atgyfeiriadau sydd wedi’u cwblhau yn eich awdurdod lleol.

Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Partneriaethau lleol os hoffech gofrestru ar Borth Partneriaid Nyth. 

Adnoddau

Gallwch ddod o hyd i nifer o adnoddau defnyddiol i’w lawrlwytho isod a all eich helpu i hyrwyddo cynllun Nyth.

Ehangu’r Hollblack-arrow-up

Cau’r Cyfanblack-arrow-up

Warm Home Discount

Sut y gall Nyth helpu?

Gwneud cais am Nyth