Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 (Llun-Gwener 9am-6pm) neu ofyn am alwad yn ôl

Pwy sy’n gymwys ar gyfer Nyth?

Mae pob cartref yng Nghymru yn gymwys i gael cyngor a chefnogaeth Nyth. Mae deiliaid tai sy’n berchen ar eu cartref neu’n rhentu yn breifat, yn derbyn budd-dal prawf modd neu’n byw gyda chyflyrau iechyd penodol, a gall byw yn yr eiddo mwyaf aneffeithlon o ran ynni fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref a ariennir gan Nyth.

Dim ond ceisiadau ar gyfer eiddo preswyl a dderbynnir gan Nyth; ni dderbynnir yr eiddo os cafodd ei ddefnyddio at ddibenion busnes yn ystod y cyfnod o 12 mis cyn gwneud cais. 

Nid yw eiddo sydd wedi cael pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref am ddim yn flaenorol o dan raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gymwys i gael unrhyw welliannau pellach yn yr un eiddo.

Ehangu’r Hollblack-arrow-up

Cau’r Cyfanblack-arrow-up

black-arrow-up

Beth yw’r budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd?

I gael rhestr o’r budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd cymwys, cliciwch yma.

black-arrow-up

Beth yw’r meini prawf iechyd newydd?

Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n byw gyda nhw gyflwr anadlol, cylchrediad y gwaed neu iechyd meddwl cronig ac yn byw mewn eiddo ynni aneffeithlon (gradd D, E, F neu G) ac ar incwm islaw trothwyon diffiniedig efallai y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

black-arrow-up

A oes meini prawf oedran ar gyfer y cynllun?

Nac oes, nid oes meini prawf oedran ar gyfer deiliaid tai sy’n gwneud cais i Nyth.

black-arrow-up

Sut y byddwch yn gwybod os bydd gan eiddo radd E, F neu G?

Nid oes angen i chi wybod y radd effeithlonrwydd cyn i chi ffonio. Bydd ein cynghorwyr yn gofyn nifer o gwestiynau i chi dros y ffôn er mwyn nodi gradd yr eiddo. Ni chaiff cymhwysedd ei gadarnhau tan y bydd un o syrfewyr Nyth wedi ymweld â’ch eiddo ac wedi cynnal asesiad.

black-arrow-up

A yw eiddo a gaiff eu rhentu’n breifat yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni?

Mae deiliaid tai sy’n berchen ar eu heiddo neu’n ei rentu’n breifat yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni Nyth i’r cartref. Fodd bynnag, os byddwch yn rhentu eich eiddo’n breifat, bydd angen caniatâd y landlord cyn y gellir bwrw ati ag unrhyw waith – ni fydd yn gyfrifol am gael caniatâd gan y landlord.

  • Rhaid bod landlord preifat wedi’i gofrestru â Rhentu Doeth Cymru a gallu rhoi ei rif cofrestru i ni
  • Gall landlord preifat gyfeirio hyd at uchafswm o dri eiddo i gynllun Nyth
  • Bydd angen i landlord preifat ddarparu cofnod diogelwch nwy dilys a’i anfon i Nyth unwaith y bydd eiddo wedi cael ei gyfeirio i’r cynllun.
  • Rhaid bod tenantiaid preifat wedi preswylio yn yr eiddo am gyfnod o chwe mis o leiaf cyn gwneud cais i Nyth
  • Rhaid bod gan denantiaid preifat gytundeb tenantiaeth dilys â chyfnod o chwe mis o leiaf yn weddill arno
  • Bydd angen i denantiaid preifat ddangos tystiolaeth o breswyliaeth/cyfeiriad i’r aseswr er mwyn dangos eu bod wedi bod yn yr eiddo am gyfnod o chwe mis cyn gwneud cais (e.e. bil cyfleustod neu fil treth gyngor) a chytundeb tenantiaeth dilys.
black-arrow-up

A fydd gwelliannau Nyth yn annog landlordiaid preifat i godi’r rhent a godir ganddynt?

Pan fydd tenant yn gwneud cais i Nyth, rhaid i landlordiaid sy’n rhoi caniatâd i gynnal gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref lofnodi ffurflen datganiad. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys amod na ellir codi’r rhent am gyfnod o 12 mis o leiaf ar ôl gosod unrhyw welliannau effeithlonrwydd ynni.

black-arrow-up

Sicrhau Ansawdd ac Archwilio

Mae Pennington Choices wedi ennill contract cychwynnol ar gyfer Sicrhau Ansawdd ac Archwilio gan Lywodraeth Cymru yn dilyn proses gaffael gystadleuol fydd yn rhedeg rhwng 1 Gorffennaf 2018 a 31 Mawrth 2023. Mae’r contract hwn yn golygu y bydd angen i Pennington Choices gynnal archwiliadau annibynnol mewn cartrefi sy’n derbyn cymorth gan y cynllun Nyth er mwyn sicrhau bod y mesurau sydd ar waith yn cydymffurfio â safonau diwydiannol a chontractiol. Mae’n bosibl felly y bydd Pennington Choices yn cysylltu â chi yn annibynnol.

Warm Home Discount

Sut y gall Nyth helpu?

Gwneud cais am Nyth